Mae beth bynnag 13 o bobol wedi’u lladd mewn dau ymosodiad ar wahân yng ngogledd-orllewin Pacistan.

Fe ruthrodd dynion arfog yn gwisgo gwasgodau yn llawn ffrwydron ar ardal Gristnogol ger tre’ Peshawar, gan ladd un dyn; tra bod ymosodiad gan hunanfomiwr yn nhre’ Mardan wedi lladd dwsin o bobol ac anafu 54 arall.

Yn ystod yr ymosodiad gan wrthryfelwyr ger Peshawar, fe laddwyd pedwar o’r ymsodwyr, yn ôl heddlu lleol. Fe gafodd dau swyddog diogelwch hefyd, a dau o bobol cyffredin, eu hanafu.