Rhan o'r adeilad a chwalodd yng ngorsaf bŵer Didcot, Sir Rhydychen Llun: PA
Mae corff wedi cael ei ddarganfod o weddillion adeilad yng ngorsaf bŵer Didcot A yn Swydd Rydychen.
Chwalodd yr adeilad ym mis Chwefror ac mae tri o ddynion wedi bod ar goll ers y trychineb. Mae teuluoedd y tri dyn wedi cael gwybod am y darganfyddiad, dywedodd Heddlu Dyffryn Tafwys.
Ymhlith y dynion gafodd eu lladd mae Chris Huxtable, 34 oed, o Abertawe ynghyd â dau arall o Rotherham yn Ne Swydd Efrog, sef Ken Cresswell, 57, a John Shaw, 61, oedd yn gwneud gwaith dymchwel pan syrthiodd yr adeilad yn annisgwyl ar Chwefror 23.
Cafodd corff y pedwerydd dyn, Michael Collings, 53, ei ganfod yn fuan yn ystod y broses chwilio.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyffryn Tafwys nad yw’r person wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto a bydd hynny’n fater i’r crwner.
Mae’r adeilad wedi bod yn rhy ansefydlog i fynd yn agos ato cyn hyn gydag ardal waharddedig 50 metr wedi ei sefydlu o amgylch y safle.