Am y tro cynta’ ers cael ei benodi’n Ysgrifennydd Tramor, mae Boris Johnson ar ddyletswydd yn lle’r Prif Weinidog, tra bod Theresa May ar ei gwyliau.

Mae wedi cymryd drosodd gan y Canghellor, Philip Hammond, a fu ar ddyletswydd trwy gydol yr wythnos ddiwetha’, unwaith yr aeth y Prif Weinidog ar ei gwyliau i’r Swisdir.

Ond, mae llefarydd ar ran 10 Stryd Downing wedi cadarnhau mai Mrs May sydd “wrth y llyw”, er ei bod allan o’r wlad.

“Mae hi’n cael ei briffio’n gyson ynglyn â phopeth sy’n mynd ymlaen,” meddai’r llefarydd.