Mae merch yn ei harddegau wedi’i hanafu’n ddifrifol wedi i goeden ddisgyn arni wrth ymweld ag un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Ynys Môn.

Roedd Amy Brooke, 18 oed ac o Borthaethwy, yn ymweld â Phlas Newydd ger Llanfairpwllgwyngyll ddydd Gwener, pan ddisgynnodd coeden gan anafu’i chefn.

Mae neges ar wefan y safle heddiw yn nodi fod rhannau o’r Plas ynghau wrth i’r ymchwiliadau barhau.

‘Ymchwilio i’r achos’

“Rydym yn meddwl ac yn dymuno’r gorau i’r ddynes ifanc a’i theulu. Rydym yn dymuno ac yn gobeithio y bydd yn gwella’n gyflym ac yn llawn,” meddai llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

“Rydym wedi cau rhai rhannau o Blas Newydd tra bo gwiriadau diogelwch yn cael eu cynnal. Mae rhannau eraill o Blas Newydd ar agor fel arfer.

“Rydym yn ymchwilio i’r achos a byddwn yn cysylltu â’r cyrff diogelwch priodol.”