Mae dau o bobol wedi cael eu lladd yn Swydd Sussex ar ôl i gar eu taro cyn i’r gyrrwr ffoi.

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Eastbourne am 9.30 nos Wener.

Cafodd y gyrrwr ei arestio’n ddiweddarach ar ôl i’r heddlu ddod o hyd iddo.

Bu farw dau o bobol yn y fan a’r lle, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.