Mae dynes 81 oed wedi cael ei hachub yn dilyn tân yn ei chartref yng Ngronant yn Sir y Fflint.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 4.35 fore Sadwrn.

Cafodd hi ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd mewn ambiwlans, ac mae ei chyflwr yn gwella.

Cafodd dau gi eu hachub o’r adeilad sy’n cael ei reoli gan gwmni Galw Gofal.

Mae ymchwiliad ar y gweill.