Ysbyty carchar Broadmoor lle mae Peter Sutcliffe ar hyn o bryd (Andrew Smith CCA2.0)
Mae disgwyl i’r Yorkshire Ripper Peter Sutcliffe gael ei symud o ysbyty seiciatryddol Broadmoor yn ôl i garchar cyffredin wedi i dribiwnlys iechyd meddwl benderfynu nad oedd ganddo broblemau iechyd meddwl bellach.

Mae’r llofrudd, sy’n 70 mlwydd oed, wedi treulio 32 o flynyddoedd yn y sefydliad iechyd meddwl yn Berkshire ar ôl llofruddio 13 o ferched a cheisio llofruddio saith arall rhwng 1976 ac 1981.

Mae wedi bod yn Broadmoor ers 1984 yn dilyn derbyn diagnosis o sgitsoffrenia paranoid ar ôl cael ei garcharu am oes yn 1981.

Tribiwnlys

Mae penderfyniad y tribiwnlys wedi cael ei gyfeirio at y Weinyddiaeth Gyfiawnder, er mwyn iddyn nhw gadarnhau’r penderfyniad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder na fyddai byth yn cael ei rhyddhau yn dilyn gorchymyn yr Uchel Lys yn 2010.

Mae Peter Sutcliffe, a oedd yn yrrwr lori o Bradford, nawr yn galw ei hun yn Peter Coonan.