James Davies - cap sydd nesa, meddai (Llun y Scarlets)
Mae enillydd medal arian rygbi yn y Gêmau Olympaidd yn edrych ymlaen bellach at gael ei ddewis i dîm llawn Cymru.

Dyna’r cam nesa’, meddai teulu James Davies o dîm saith bob ochr Prydain Fawr, wrth iddyn nhw ddathlu ei lwyddiant yn y gystadleuaeth.

Blaenasgellwr y Scarlets oedd un o chwaraewyr gorau’r tîm wrth iddyn nhw wneud yn well na’r disgwyl trwy gyrraedd y rownd derfynol – er iddyn nhw gael eu chwalu yno gan Fiji.

Fe ddaeth Cymro arall, Sam Cross, ar y cae yn ystod y gêm derfynol hefyd i ymono â James Davies o Fancffosfelen, sy’n frawd i ganolwr tîm llawn Cymru, Jonathan Davies.

Arian i Vicky hefyd

Roedd yna ddathlu yng ngogledd-ddwyrain Cymru hefyd wrth Vicky Thornley gael medal arian yn y rhwyfo i ddau i fenywod.

Unwaith eto, fe wnaeth hi a’i phartner Kate Grainger, yn well na’r disgwyl trwy ddod o fewn llathen neu ddwy i gipio’r aur yn erbyn pâr o Wlad Pwyl.

Fe gafodd Vicky Thornley ei geni yn Llanelwy a’i magu yn Wrecsam.

Bron iawn i Chloe

Roedd yna siom i’r nofwraig Chloe Tutton wrth iddi ddod o fewn chwech canfed o eiliad i ennill efydd yn y nofio dull broga.

Fe ddywedodd y ferch 20 oed ei bod hi’n hynod o siomedig ac mae dadl tros y ffaith fod merch o Rwsia wedi dod yn ail.