Mae tymor Clwb Criced Morgannwg yn rhacs ar ôl iddyn nhw golli o 90 rhediad yn rownd wyth olaf cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast erbyn Swydd Efrog yng Nghaerdydd.

Sgoriodd y Cymry eu cyfanswm isaf erioed – 90 i gyd allan – wrth iddyn nhw gwrso 181 i ennill. Mae’r cyfanswm yn waeth na’r cyfanswm isaf blaenorol o 94, a hynny yn erbyn Swydd Essex yng Nghaerdydd yn 2010, a’r buddugoliaeth fwyaf erioed yn nhermau rhediadau yn rownd wyth ola’r gystadleuaeth i unrhyw dîm.

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, sgoriodd yr ymwelwyr 180-8 yn eu hugain pelawd ar ôl edrych ar un adeg fel pe baen nhw’n debygol o sgorio ymhell dros 200. Dim ond bowlio campus gan y troellwr coes Colin Ingram wnaeth sicrhau bod gan Forgannwg gyfle o ennill hanner ffordd trwy’r ornest, ac yntau wedi cipio pedair wiced am 32, ei berfformiad gorau erioed mewn gêm ugain pelawd.

David Willey wnaeth y ddifrog i Swydd Efrog, wrth iddo sgorio 79 oddi ar 38 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys saith pedwar a chwech chwech. Cafodd ei gefnogi gan y capten Alex Lees a darodd 36.

Ond wrth ymateb, collodd Morgannwg wiced ar ôl wiced ac roedd hi ar ben fel gornest, i bob pwrpas, yn hanner cyntaf eu batiad wrth iddyn nhw golli chwe wiced am 37 o flaen torf ddisgwylgar o 10,000 oedd yn ysu am gael diwrnod allan yn Edgbaston ar Awst 20.

Manylion

Ar ôl i Swydd Efrog alw’n gywir a phenderfynu batio, daeth cyfle cynnar i Forgannwg gipio wiced, wrth i Adam Lyth yrru ar ochr y goes i gyfeiriad y capten Jacques Rudolph, ond hwnnw’n methu dal ei afael ar y bêl oddi ar fowlio Timm van der Gugten.

Ond fe achubodd y capten ar ei ail gyfle i dorri partneriaeth addawol gyda David Willey. Y tro hwn, Shaun Tait oedd y bowliwr wrth i’r batiwr yrru i’r ochr agored, a’r ymwelwyr yn 36-1 oddi ar 3.5 o belawdau.

Ond parhau i glatsio wnaeth Willey, a’r ymwelwyr wedi cyrraedd 61-1 erbyn diwedd y cyfnod clatsio, ar ôl i Tait ildio 22 o rediadau oddi ar y chweched pelawd.

Cyrhaeddodd Willey ei ganred oddi ar 28 o belenni, ac roedd e eisoes wedi taro chwe phedwar a thri chwech ar ei ffordd i’r garreg filltir. Ond wrth i’r ymwelwyr edrych yn gyfforddus ar 110-2 yn yr unfed pelawd ar ddeg, cipiodd Graham Wagg wiced y capten Alex Lees, wrth iddo yrru i lawr corn gwddf Michael Hogan ar yr ochr agored.

Cyrhaeddodd Willey ei gyfanswm unigol gorau yn y T20 Blast y tymor hwn (77) ychydig cyn cael ei fowlio am 79 gan Colin Ingram ar ddiwedd y deuddegfed pelawd, a’r ymwelwyr yn 135-3 ond yn dal i edrych yn gyfforddus serch hynny. Roedd batiad Willey yn cynnwys saith pedwar a chwech chwech.

Cipiodd Ingram ddwy wiced yn y bedwaredd pelawd ar ddeg i arafu’r sgorio gan yr ymwelwyr. Aeth 135-3 yn 141-4 wrth i Jack Leaning gael ei fowlio, a choes Will Rhodes yn cael ei darganfod o flaen y wiced wrth i’r ymwelwyr lithro i 146-5.

Cipiodd Ingram ei bedwaredd wiced – ei nifer fwya’r tymor hwn yn y T20 Blast – wrth i Graham Wagg fynd ar garlam i ddal Liam Plunkett ar y ffin y tu ôl i’r bowliwr. Gorffennodd Ingram gyda ffigurau o 4-32.

Collodd Swydd Efrog eu seithfed wiced wrth i Ingram ddal Tim Bresnan oddi ar Timm van der Gugten am naw, a’r ymwelwyr yn 156-7 yn yr ail belawd ar bymtheg. Cwympodd yr wythfed wiced yn y belawd olaf ond un, wrth i Adil Rashid ei tharo hi’n syth ar ochr y goes i Hogan oddi ar van der Gugten, a’r ymwelwyr yn 169-8, a’r Iseldirwr yn gorffen gyda ffigurau o ddwy wiced am 22.

Daeth chwech oddi ar belawd ola’r batiad, wrth i’r ymwelwyr orffen ar 180-8, gan osod nod o 181 i Forgannwg am y fuddugoliaeth. Erbyn diwedd y batiad, roedd yr ymwelwyr wedi colli eu saith wiced olaf am 59 o rediadau.

Ond cafodd y Cymry y dechrau gwaethaf posib i’r batiad, wrth i David Lloyd gael ei fowlio oddi ar belen gynta’r batiad gan Tim Bresnan. Gyda dim ond 2.2 o belawdau wedi’u bowlio, collodd Morgannwg eu hail wiced wrth i Mark Wallace gael ei ddal gan Liam Plunkett oddi ar fowlio Bresnan am 6, a’r Cymry’n 21-2.

Dim ond chwe rhediad sgoriodd Aneurin Donald cyn iddo gael ei fowlio gan Willey, a Morgannwg wedi llithro i 24-3 yn y bedwaredd pelawd. Ar ôl colli cyfle oddi ar ergyd rydd, penderfynodd Colin Ingram glatsio pelen dda gan Matthew Waite, ond fe wnaeth e ddarganfod ymyl ucha’r bat a dwylo Will Rhodes yn safle’r trydydd dyn. Roedd Morgannwg erbyn hynny’n 28-4 ac mewn dyfroedd dyfnion.

Erbyn diwedd y cyfnod clatsio, roedd Morgannwg wedi colli Graham Wagg, a gafodd ei fowlio gan Liam Plunkett ar ddiwedd y chweched pelawd, a’r cyfanswm yn 34-5.

Cwympodd y chweched wiced yn y nawfed pelawd, wrth i Craig Meschede ergydio’n syth i lawr corn gwddf Plunkett odi ar fowlio’r troellwr coes Adil Rashid. Andrew Salter oedd y seithfed batiwr yn ôl yn y cwtsh wrth iddo gael ei fowlio gan Rashid am 9, a Morgannwg yn 65-7.

Cwympodd yr wythfed wiced ar 71, Azeem Rafiq y bowliwr y tro hwn wrth iddo gael ei ddal gan Lyth oddi ar fowlio Azeem Rafiq am 26. Roedd Morgannwg ar 86 pan gwympodd eu nawfed wiced, wrth i Timm van der Gugten dynnu i gyfeiriad Matthew Waite oddi ar fowlio Adil Rashid.

Michael Hogan oedd y batiwr olaf allan, wedi’i fowlio gan Rashid, a orffennodd gyda phedair wiced am 26.