Philip Temple (Llun: PA)
Mae cyn-offeiriad Pabyddol a fu’n weithiwr mewn cartre’ plant yn Llundain, wedi’i ddedfrydu i 12 mlynedd yng ngharchar.

Roedd Philip Temple, 67 oed, wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar 13 o fechgyn a merched yn ei ofal rhwng 1971 a 1977, ac yntau’n gyflogedig gan awdurdodau Lambeth a Wandsworth.

Fe symudodd, wedyn, i fod yn offeiriad Pabyddol, gan wasanaethu ym Mynachdy Crist y Brenin, Vita Et Pax yn Cockfosters, lle y bu’n cam-drin dau o blant.

Fe blediodd Philip Temple yn euog i 20 cyhuddiad o gam-drin rhywiol hanesyddol yn Llys y Goron Croydon yn ôl yn Ebrill eleni, ac yn euog i saith achos arall yn Llys y Goron Woolwich ddoe. Fe gyfaddefodd hefyd i ddau achos o ddweud celwydd yn y llys mewn achosion yn 1998 ac 1999.