Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth, yn dilyn lladrad yng Nghasnewydd nos Lun, Awst 8.

Fe aeth y troseddwr i mewn i dŷ yn Dewsland Park Road toc wedi 7 o’r gloch y nos, a dwyn eitemau o emwaith tra’r oedd y perchnogion gartre’ hefyd.

Mae’r lleidr wedi’i ddisgrifio fel dyn gwyn, tua 40 oed, yn gsigwo crys-T llwyd a phâr o jîns glas. Mae ganddo datŵ gwyrdd ar ei fraich.