Llys Ynadon Birmingham
Mae dyn 59 oed wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o lofruddio mam i ddau blentyn 35 mlynedd yn ôl.

Fe gafodd Osmond Bell o Birmingham ei gyhuddo o ladd Nova Welsh wedi i hen achos gael ei agor eto gan Heddlu’r West Midlands.

Daethpwyd o hyd i gorff Ms Welsh mewn cwpwrdd glanhau mewn bloc o fflatiau yn ardal Ladywood, Birmingham, ym mis Awst 1981. Roedd prawf post mortem wedi canfod i’r ddynes 24 oed farw o ganlyniad i bwysau ar ei gwddw.

Mae Osmond Bell wedi’i gyhuddo o lofruddio Ms Welsh yn Birmingham rywbryd rhwng Gorffennaf 25 ac Awst 19, 1981.

Mae’r diffynnydd, a ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Birmingham heddiw, wedi’i gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron ddydd Gwener.