Copa mynydd Yr Aran ddoe (Llun: PA)
Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi dweud wrth golwg360 nad ydyn nhw’n gallu dweud faint o ddifrod sydd ar fynydd Yr Aran, ger yr Wyddfa, ar ôl i hofrennydd orfod lanio ar frys arno ddoe.
Fe aeth hofrennydd yr Awyrlu ar dân ar y mynydd ar ôl gorfod glanio yn dilyn “problem dechnegol” toc cyn 2 o’r gloch brynhawn dydd Mawrth. Roedd pum person ar fwrdd yr hofrennydd, ond chafodd neb ei hanafu.
Bu’r hofrennydd yn llosgi ar y mynydd am rai oriau wedi’r digwyddiad, a mwg i’w weld o bell.
Ond, meddai’r Parc, does dim modd gwybod faint o ddifrod wnaed i’r mynydd nes y bydd ymchwiliad y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi’i gwblhau.
Gobeithio am y gorau
Mae wardeniaid Parc Eryri yn gobeithio mai dim ond lle llosgodd yr hofrennydd y mae’r difrod mwyaf ond mae’n “amhosib” iddyn nhw ddweud yn iawn nes i’r ymchwiliad ddod i ben.
Fe gadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod Cangen Ymchwiliadau Awyr (‘Air Investigations Branch’) Llywodraeth Prydain wedi dechrau ymchwilio.
Bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn asesu’r difrod i fynydd Yr Aran ar ôl i’r ymchwiliad hwnnw ddod i ben.