Mae cyn chwaraewr pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, a’i gydchwaraewr yn Manchester United wedi datgelu lluniau o’u datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd yng nghanol dinas Manceinion.
Mae datblygiad St Michael yn 700,000 troedfedd sgwâr ac yn cynnwys dau nendwr, gwesty pum seren, 153 o fflatiau, bariau a bwytai, swyddfeydd a synagog.
Meddai Garry Neville heddiw ei fod yn gobeithio y bydd y datblygiad yn creu hyd at 1,000 o swyddi a bod cynlluniau hefyd i gynnwys 14,000 troedfedd sgwâr o ofod cyhoeddus.
Cafodd y datblygiad sylw yn y wasg ym mis Rhagfyr ar ôl i’r ddau gyn chwaraewr pêl-droed ganiatáu i 30 o bobl digartref gysgu yn un o’r adeiladau gwag fydd yn rhan o’r prosiect.
Wrth siarad yn Neuadd y Dref heddiw dywedodd Garry Neville, 41 ei fod eisiau i’r datblygiad fod yn dirnod newydd ym Manceinion.
Bydd cynlluniau ffurfiol yn cael eu cyflwyno i’r cyngor ym mis Medi.