Mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi cadarnhau bod dyn wedi cael ei daro gan drên ger gorsaf Caerdydd Canolog.
Yn ôl cwmni trenau Arriva Cymru, cafodd y dyn ei daro ar y llinell rhwng Caerdydd a Chasnewydd.
Mae’r heddlu, yr ambiwlans a swyddogion o’r gwasanaeth tân ar y safle, ac mae platfformau 2, 3 a 4 yng ngorsaf Caerdydd Canolog wedi’u cau.
Mae’r dyn yn cael ei drin ar y safle ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gludo i’r ysbyty cyn hir. Dyw’r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un amheus, meddai’r heddlu.
Mae’r cwmnïau trenau wedi rhybuddio y bydd o leiaf awr o oedi tan 3 o’r gloch prynhawn ‘ma ar wasanaethau i ganol Caerdydd, a rhai sy’n gadael yr orsaf hefyd.
Mae modd i deithwyr â thocyn trên rhwng Caerdydd a Casnewydd deithio ar fws yr X30 yn y cyfamser.