Mae Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan wedi dweud y bydd yn dechrau ymchwiliad i edrych ar oblygiadau Brexit i Gymru.
Bydd y pwyllgor yn cymryd tystiolaeth gan wahanol bobol ar “amrywiaeth” o faterion bydd yn debygol o effeithio ar Gymru pan fydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl y pwyllgor, mae’n bwysig bod Cymru’n cael llais yn y broses a bod yr effeithiau posib o adael yn cael eu hymchwilio’n llawn.
Mae’r pwyllgor eisoes wedi gofyn cwestiynau cychwynnol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.
“Manteisio ar gyfleoedd Brexit”
Roedd cadeirydd y pwyllgor, David Davies, yn un o’r lleisiau cryfaf yn yr ymgyrch yng Nghymru i adael yr Undeb Ewropeaidd cyn y refferendwm fis diwethaf.
Dywedodd ei fod yn “allweddol” bod Cymru, lle bleidleisiodd 52.5% o’r boblogaeth dros Brexit, yn barod i “fanteisio ar holl gyfleoedd” gadael yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae’n hanfodol bod y penderfyniad democrataidd i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei wireddu,” meddai.
“Ynghyd â hyn, mae’n allweddol bod Cymru’n barod i fanteisio ar holl gyfleoedd newydd fydd yn dod o Brexit.
“Rydym wedi lansio’r ymchwiliad, am ei bod yn hollbwysig ein bod yn craffu ar y trafodaethau o safbwynt Cymreig, a bod llais Cymru yn cael ei glywed.”
Mae’n debygol y bydd yr ymchwiliad yn cymryd amser hir i’w gwblhau a hynny am fod trafodaethau ar delerau gadael yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i fod yn broses hir.
“Mi fyddwn yn cyhoeddi ein sesiynau er mwyn cyfrannu at drafodaethau ac ymateb i’r digwyddiadau wrth iddyn nhw ddigwydd,” ychwanegodd David Davies.
Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig
Mae gan bawb hawl i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig, heb fod dros 1,000 o eiriau i’r pwyllgor, er mwyn codi unrhyw bryderon.
Mae’r pwyllgor yn bwriadu dechrau cymryd tystiolaeth lafar gan bobol ym mis Hydref, ac yna bydd sesiynau eraill yn cael eu cynnal yn achlysurol.