Y Canghellor newydd Philip Hammond yn agored i'r posibilrwydd o newid polisi ei ragflaenydd, George Osborne
Gallai polisïau treth a gwariant Llywodraeth Prydain newid pe bai’r economi’n dirywio yn dilyn canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Philip Hammond.
Datgelodd y Canghellor newydd ei fod yn barod i ddefnyddio datganiad Cyllideb yr Hydref i fynd â’r economi i gyfeiriad gwahanol pe bai dadansoddiadau’n dangos bod y bleidlais ‘Brexit’ wedi cael effaith negyddol ar yr economi.
Mae Hammond ar ymweliad â Beijing ar hyn o bryd i feithrin cysylltiadau yno cyn cyfarfod o weinidogion cyllid y G20 yn ninas Chengdu.
Mae Hammond wedi etifeddu swydd y Canghellor ar adeg o ansicrwydd, gyda benthyciadau yn fwy na’r disgwyl ar £9.7 biliwn ym mis Mai.
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y Canghellor wrth aelodau seneddol nad oedd ganddo “unrhyw gynlluniau” i newid cynlluniau gwariant, ond mae arbenigwyr yn disgwyl na fydd o mor llym â’i ragflaenydd George Osborne.
Mae’r Prif Weinidog Theresa May hefyd wedi dweud ei bod yn barod i gael gwared ar dargedau gwariant George Osborne er mwyn osgoi cynnydd mewn treth.