Llys y Goron Reading
Mae dau aelod o’r grŵp pop y Tremeloes wedi’u cael yn ddieuog o ymosod yn anweddus ar ferch 15 oed hanner canrif yn ôl.
Roedd disgwyl i Leonard ‘Chip’ Hawkes, 70, a Richard Westwood, 73, wynebu achos llys y flwyddyn nesaf yn dilyn honiadau eu bod nhw wedi ymosod ar y ferch mewn gwesty yng Nghaer yn 1968.
Ond mynnodd y barnwr yn Llys y Goron Reading fod rhaid i’r rheithgor ganfod y ddau yn ddieuog gan nad oedd yr erlynwyr wedi cyflwyno tystiolaeth yn eu herbyn.
Mynegodd y gitarydd Richard Westwood ei ‘ryddhad’, gan ddweud bod y ddwy flynedd a hanner diwethaf wedi bod yn “erchyll” ac yn “hunllef” iddo fe a’i deulu.