Theresa May Llun: PA
Mae Theresa May wedi lladd ar Jeremy Corbyn wrth iddyn nhw fynd benben am y tro cyntaf yn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan.

Fe wnaeth Prif Weinidog Prydain gyhuddo arweinydd y Blaid Lafur o fod yn “fos anegwyddorol” sydd wedi ecsbloetio’r blaid er mwyn datblygu ei yrfa’i hun.

Ar ôl i Corbyn fod yn trafod ansefydlogrwydd gweithwyr, dywedodd May: “Mae diddordeb gen i yn y ffaith ei fod e’n cyfeirio at sefyllfa rhai gweithwyr y gall fod ganddyn nhw ansefydlogrwydd gwaith a phenaethiaid anegwyddorol o bosib.”

‘Bos anegwyddorol’

Ychwanegodd: “Rwy’n amau fod yna nifer o aelodau’r meinciau gyferbyn sydd yn gyfarwydd â bos anegwyddorol.

“Bos nad yw’n gwrando ar ei weithwyr, bos sy’n gofyn i rai o’i weithwyr ddyblu eu llwyth gwaith ac efallai bos sy’n ecsbloetio’r rheolau er mwyn datblygu ei yrfa’i hun. Atgoffa fe o unrhyw un?”

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd Corbyn: “Rwy’n gwybod fod hyn yn ddoniol iawn i aelodau’r Ceidwadwyr ond am wn i, does dim llawer o aelodau seneddol Ceidwadol sy’n gorfod mynd i fanciau bwyd er mwyn llenwi bwrdd y teulu.”

Dywedodd May y byddai’r Ceidwadwyr yn treulio’r misoedd nesaf yn “rhoi’r wlad yn ôl at ei gilydd”.

Sylwadau Boris Johnson

Yn ogystal, tynnodd May sylw at y bleidlais i gadw arfau niwclear Trident, gan ddweud bod y 141 o aelodau seneddol a gefnogodd y Llywodraeth wedi “rhoi buddiant y wlad yn gyntaf”.

Ond wnaeth hi ddim gwneud sylw wrth i Corbyn gyfeirio at sylwadau Boris Johnson am bobol groenddu.

Defnyddiodd yr Ysgrifennydd Tramor y term “piccaninnies” wrth gyfeirio at bobol groenddu, ac fe gwestiynodd gymhelliant Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama oherwydd ei fod o dras Affricanaidd.