Owen Smith Llun: Andrew Matthews/PA Wire
Mae Aelod Seneddol Llafur Pontypridd wedi mynnu nad yw e erioed wedi cefnogi preifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd yn rhannol.

Roedd yn ymateb i honiadau gan gefnogwyr arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn ynglŷn â sylwadau a wnaeth 11 mlynedd yn ôl.

Mae’r rheiny sy’n gwrthwynebu’r her gan Smith i arweinyddiaeth Corbyn wedi bod yn tynnu sylw at ei gyfnod fel lobïwr gyda chwmni cyffuriau Pfizer yn 2005.

Bryd hynny, dywedodd fod “dewis” yn beth da i’r Gwasanaeth Iechyd, ond mae’n mynnu bellach nad oedd hynny’n golygu preifateiddio.

Heddiw, fe ddywedodd fod “gor-ddweud anferth” wedi bod ynghylch “un sylw mewn datganiad i’r wasg am adroddiad a gomisiynwyd gan Pfizer cyn i fi weithio yno”.

“Dydw i erioed wedi cefnogi preifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

‘Un o gyflawniadau mwyaf Llafur’

Smith bellach yw’r unig ymgeisydd i herio Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur ar ôl i Angela Eagle dynnu ei henw’n ôl.

Ychwanegodd Smith: “Rwy’n credu mewn Gwasanaeth Iechyd sy’n eiddo’r cyhoedd 100% ac sy’n rhad ac am ddim wrth ei ddefnyddio.

“Mae’n un o gyflawniadau mwyaf Llafur.”

Dywedodd fod mwy o gwmnïau preifat yn gweithredu o fewn y Gwasanaeth Iechyd bellach oherwydd “y ffordd y mae’r Llywodraeth Dorïaidd wedi troi rhai o eiriau’r Llywodraeth Lafur ddiwethaf.”

Cododd y ffrae ar ôl i’r South Wales Echo ail-gyhoeddi cyfweliad â Smith a gafodd ei gynnal yn 2006.

Dywedodd bryd hynny fod gan y sector preifat “syniadau da” ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd.

Irac, Corbyn ac embaras

Yn y cyfamser, mae e wedi dweud nad yw’n gwybod a fyddai wedi pleidleisio o blaid neu yn erbyn rhyfel Irac ar y pryd.

Wrth drafod dyfodol Jeremy Corbyn, dywedodd yr hoffai iddo gael swydd flaenllaw yn y Blaid Lafur pe bai’n ei ddisodli fel arweinydd, o bosib fel llywydd neu gadeirydd.

Wrth gyfeirio at ei orffennol fel cynhyrchydd gyda’r BBC, dywedodd fod ei alwad 999 i ofyn am ymateb yr heddlu i stori wedi bod yn destun “embaras” iddo, ond fe ddywedodd fod diwylliant o “fwlio” o fewn y BBC ar y pryd yn rhannol gyfrifol.