Mae tri o bobl wedi cael eu saethu’n farw mewn digwyddiad ger pwll nofio yn Swydd Lincoln bore ma.

Dywedodd yr heddlu bod yr ymosodiad wedi digwydd ger Pwll Nofio Castle yn Spalding ddydd Mawrth.

Mae’n debyg bod Lance Hart, 57, wedi lladd ei bartner Claire, 50, a’i ferch Charlotte, 19, cyn lladd ei hun.  Nid oedd yr heddlu wedi tanio’r un ergyd at y tri.

Dywed yr heddlu eu bod yn cynnal ymchwiliad ond nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.