Chris Coleman yn dathlu yn ystod Ewro 2016 Llun: PA
Fe fydd rheolwr Cymru, Chris Coleman, yn derbyn rhyddid y ddinas yn Abertawe, ei ddinas enedigol, fel cydnabyddiaeth o lwyddiant y tîm cenedlaethol yn Ewro 2016.

Fe ddychwelodd y Dreigiau o Ffrainc i groeso gan filoedd o bobl ar hyd strydoedd y brifddinas, ar ôl cyrraedd y rownd gynderfynol yn y bencampwriaeth, cyn colli i Bortiwgal.

Cafodd Chris Coleman ei benodi yn rheolwr Cymru yn 2012 yn dilyn marwolaeth sydyn Gary Speed. Ers hynny, fe lwyddodd i arwain y tîm cenedlaethol i’r bencampwriaeth a hynny am y tro cyntaf ers 1958.

Dywedodd David Hopkins, Arglwydd Faer Abertawe: “Rhyddid y ddinas yw’r anrhydedd uchaf bosib y mae pobl Abertawe yn gallu ei roi i’w cyd-ddinasyddion.

“Ar ôl ymgyrch anhygoel yn Ffrainc, dwi’n meddwl ei bod yn saff i ddweud fod pawb yn Abertawe yn credu fod y clod yn haeddiannol.”

“Mewn cyfweliadau, mae Chris wedi dweud ei fod yn gobeithio fod yr antur yn Ffrainc wedi rhoi Cymru ar y map pêl-droed. Ond nid Cymru yn unig ond Abertawe hefyd.”