Fe fydd dwy ferch yn eu harddegau, a oedd wedi cipio plentyn o siop Primark, yn gorfod treulio tair blynedd a thri mis dan glo.

Daeth Mr Ustus Globe i’r casgliad bod y ddwy ferch 13 a 14 oed  wedi cipio’r ferch ddwy oed gan ei mam,  a’i bod yn bosib rhagweld y byddai niwed difrifol wedi’i achosi i’r plentyn.

Yn Llys y Goron Newcastle, dywedodd y barnwr wrth y ddwy ferch bod y plentyn mewn perygl o ddioddef trais corfforol neu rywiol a/neu gael ei hecsbloetio.

Roedd yn cyfeirio at wybodaeth y daethpwyd o hyd iddi ar gyfrifiadur y diffynnydd 13 oed a oedd yn cynnwys plant yn cael rhyw, treisio, caethwasiaeth a chipio.

Cafodd y ferch ei chipio o siop Primark yn Newcastle ar 13 Ebrill.

Cafodd y plentyn ei dychwelyd at ei mam ar ôl awr a 45 munud pan gafodd y merched eu gweld ar gamerâu teledu cylch cyfyng yn mynd a’r ferch i barc tair milltir i ffwrdd yn Gosforth.

Roedd y ddwy ferch wedi pledio’n euog i gyhuddiad o gipio.