Gwasanaeth Erlyn y Goron
Ni fydd unrhyw gamau troseddol yn cael eu cymryd yn erbyn tad merch 13 mis oed fu farw ar ôl cael anafiadau difrifol yn ei chartref.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) heddiw nad oedd digon o dystiolaeth i gyhuddo Paul Worthington o unrhyw drosedd yn ymwneud a marwolaeth ei ferch Poppi.

Cafodd Poppi Worthington anafiadau difrifol yn ei chartref yn Barrow-in-Furness, Cumbria, ar 12 Rhagfyr 2012 ond bu farw yn yr ysbyty yn fuan wedyn.

Mae Paul Worthington, a gafodd ei arestio ym mis Awst 2013, a’i holi ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol, wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le.

Ail gwest

Ond yn yr Uchel Lys ym mis Ionawr eleni, fe ddyfarnodd y Barnwr Mr Ustus Peter Jackson bod Worthington, 48 oed, wedi ymosod yn rhywiol ar ei ferch yn fuan cyn iddi farw.

Daeth y barnwr i’r casgliad hefyd nad oedd Heddlu Cumbria wedi cynnal ymchwiliad trylwyr i farwolaeth Poppi am naw mis, a bod nifer o fethiannau yn y modd y cafodd y dystiolaeth ei chasglu.

Mae Heddlu Cumbria wedi cyfeirio ei hun at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Fe fydd ail gwest yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni ar ôl i’r cwest gwreiddiol ym mis Hydref 2014 gymryd saith munud yn unig i ddyfarnu bod marwolaeth Poppi yn “ddiesboniad”.

Daw’r cyhoeddiad heddiw gan Wasanaeth Erlyn y Goron ar ôl i erlynwyr adolygu’r achos unwaith eto yn dilyn penderfyniad blaenorol i beidio cymryd camau troseddol yn yr achos.