Boris Johnson a Theresa May Llun: PA
Mae Boris Johnson yn dechrau ei ddiwrnod cyntaf fel gweinidog yng Nghabinet y Prif Weinidog newydd, Theresa May yn dilyn ei benodiad annisgwyl yn Ysgrifennydd Tramor.

Dywedodd cyn-Faer Llundain ei fod yn “gyffrous iawn” i gael ei benodi, wrth i Theresa May barhau a’i gwaith o ffurfio Cabinet newydd heddiw.

Roedd ’na ddyfalu wedi bod ’na fyddai’n cael rôl o gwbl ar ôl iddo dynnu ei enw yn ôl o’r ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, ddyddiau’n unig ar ôl ei fuddugoliaeth yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Penodiadau

Yn ystod ei noson gyntaf yn Rhif 10 fe wnaeth Theresa May nifer o benodiadau. Philip Hammond fydd y Canghellor newydd, gan gymryd lle George Osborne, a gafodd y sac. Mae Hammond eisoes wedi dweud na fydd yn cynnal Cyllideb frys, er gwaethaf effaith Brexit ar yr economi.

Amber Rudd yw’r Ysgrifennydd Cartref newydd a Liam Fox sydd wedi cael ei benodi’n Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol. Fe fydd Michael Fallon yn parhau yn Ysgrifennydd Amddiffyn.

David Davis sydd wedi cael ei benodi yn Ysgrifennydd Brexit – swydd yr oedd disgwyl i Chris Grayling ei chael. Ond mae’n debygol y bydd yn cael swydd yn y Cabinet ar ôl iddo arwain ymgyrch Theresa May.

Mae’r Prif Weinidog newydd yn awyddus i gael rhagor o ferched yn y Cabinet ac fe fydd nifer o weinidogion yn gobeithio am ddyrchafiad gan gynnwys Andrea Leadsom, a oedd wedi tynnu ei henw yn ôl o’r ras ddydd Llun.

‘Dylai Boris ymddiheuro’

Ond fe fydd y sylw i gyd yn debygol o fod ar Boris Johnson heddiw wrth iddo ddechrau ar ei ddiwrnod cyntaf yn y Cabinet.

Dywedodd wrth y BBC: “Yn amlwg mae gennym bellach gyfle anferth yn y wlad hon i wneud llwyddiant o’n perthynas gydag Ewrop a’r byd ac rwy’n gyffrous iawn i gael chwarae rhan yn hynny.”

Ond mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron wedi beirniadu ei benodiad gan ddweud mai’r peth cyntaf y dylai wneud yw ymddiheuro wrth Arlywydd America, Barack Obama am sylwadau a wnaeth am ei gefndir.

Galw eto am etholiad cyffredinol

Mae Theresa May wedi dweud ei bod yn awyddus i ffurfio Llywodraeth a fydd yn rhoi mwy o reolaeth i bobl yn eu bywydau ac nid er budd y breintiedig yn unig.

Mae’r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn wedi croesawu sylwadau Theresa May i helpu pobl lai cefnog ond mae wedi galw eto ar y Prif Weinidog i gynnal etholiad cyffredinol buan.