David Cameron a'i deulu wrth ffarwelio yn Downing Street (Gareth Fuller/PA Wire)
Mae Theresa May wedi cymryd yr awenau yn Brif Weinidog Prydain – yr ail fenyw erioed i ddal y swydd.

Ac, wrth wneud lle iddi, fe ddywedodd y cyn-Brif Weinidog David Cameron ei fod yn sicr y byddai hi’n gwneud arweinydd cry’.

Fe ddymunodd yn dda iddi wrth drafod “y telerau gorau posib” ar gyfer ymadawiad gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Ymddiswyddiad

Y bleidlais refferendwm i adael yr Undeb oedd achos ymdawiad David Cameron ar ôl chwe blynedd yn rhif 10 Downing Street ac fe deithiodd i Balas Buckingham y prynhawn yma i roi ei ymddiswyddiad i’r Frenhines.

Ychydig funudau wedyn, fe gychwynnodd Theresa May a’i gŵr, Philip, o rif 10 er mwyn cael ei phenodi – y 13eg Prif Weinidog yn ystod teyrnasiad Elizabeth I.

Ynghynt, roedd David Cameron wedi cael ffarwel hwyliog a gwresog gan ei gydaelodau Ceidwadol wrth wynebu ei sesiwn cwestiynau ola’ yn Nhŷ’r Cyffredin.

Roedd sylw y byddai hi hefyd yn “gweithredu ar faniffesto” y blaid yn yr etholiad diwetha’ yn awgrym nad oes angen Etholiad Cyffredinol arall.