Y ffoaduriaid yn diolch (llun ar dudalen Facebook Lindsay Cardwell)
Mae ffoaduriaid sydd wedi cael cartrefi yn Aberystwyth wedi dangos eu gwerthfawrogiad i bobol leol drwy rannu blodau.
Ddoe, roedd rhai o’r 11 o bobol o Syria sydd wedi cael lle i fyw yn y dre’ yn rhoi blodau i bobol oedd yn pasio heibio, gan ddiolch– yn Gymraeg ac yn Saesneg – am y croeso.
Fe gyrhaeddodd y grŵp Aberystwyth cyn y Nadolig ac, yn ôl y Groes Goch yng Ngheredigion, maen nhw wedi “setlo’n” dda ac yn “ddiolchgar am ganfod hafan ddiogel”.
‘Syniad hyfryd’
Fe bostiodd un o drigolion Aberystwyth, Lindsay Cardwell, lun o’r ffoaduriaid yn rhoi’r blodau i bobol ar hyd y prom ar ei thudalen Facebook.
“Rhai o’r ffoaduriaid o Syria sy’n byw yn Aberystwyth oedd ar y prom heddiw (dydd Mawrth) yn rhoi blodau er mwyn diolch am y croeso maen nhw wedi cael, syniad hyfryd,” meddai ar Facebook.
Mae’r cynllun o integreiddio’r ffoaduriaid yn cael ei gydlynu gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyngor Ceredigion.