Atomfa bresennol Wylfa (Llun: Golwg360)
Mae’r problemau tros gostau trydan mewn atomfa newydd yn Lloegr yn codi mwy o amheuon tros godi gorsaf niwclear yn Ynys Môn hefyd, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae’r diwydiant niwclear yn colli tir,  meddai Dylan Morgan, o’r mudiad gwrth-niwclear PAWB yn sgil adroddiad gan y Swyddfa Archwilio  Genedlaethol.

Mae hwnnw’n awgrymu y bydd y gost i Lywodraeth Prydain o roi arian ar ben pris y farchnad am drydan yn codi i bron £30 biliwn tros oes atomfa arfaethedig Hinkley C yng Ngwlad yr Haf.

‘Gwallgo’

“Mae’r costau yn gwbl wallgo,” meddai Dylan Morgan. “Mae economeg y peth yn mynd yn fwy gwallgo o hyd.

Roedd adroddiad arall wythnos yn ôl wedi awgrymu y byddai cost codi Hinkley C hefyd yn codi’n ddychrynllyd ac mae PAWB yn credu y bydd hynny’n codi ofn ar gwmnïau Hitachi a Horizon wrth ystyried codi atomfa newydd yn Wylfa ym Môn.

“Pwy yn ei iawn bwyll sydd eisiau rhoi ei arian i mewn i bwll diwaelod,” meddai Dylan Morgan.