Nia Griffith (o'i gwefan)
Fydd cyn-ysgrifennydd yr wrthblaid ar Gymru ddim yn rhoi ei chefnogaeth i’w rhagflaenydd a’i chyd Gymro, Owen Smith, yn ei ymgyrch i ddod yn arweinydd nesa’ y Blaid Lafur.

Mae Nia Griffith wedi dweud wrth golwg360, ei bod hi am gefnogi Angela Eagle, cyn-ysgrifennydd busnes yr wrthblaid, a’r cynta’ i ddweud y bydd yn herio Jeremy Corbyn am yr arweinyddiaeth.

Mae’n dweud bod angen i’r blaid fod mewn sefyllfa gref er mwyn gallu herio’r Ceidwadwyr mewn etholiad cyffredinol, a allai ddigwydd o fewn y misoedd nesa’, yn dilyn ethol Theresa May yn Brif Weinidog.

“Mae gan Angela Eagle lawer o brofiad, mae wedi bod yn weinidog mewn llywodraeth, mae hyn yn help mawr pan fyddwch chi am fod yn arweinydd a phan ydych chi’n sôn am bethau fel blaenoriaethau a negeseuon – pethau sy’n bwysig iawn i ennill etholiad,” meddai Nia Griffith.

“Hi wnaeth ddechrau’r broses a bod yn ddigon dewr i roi ei henw i mewn a chreu sefyllfa lle’r ’yn ni’n cael cystadleuaeth.

Hollti’r bleidlais yn erbyn Corbyn

Gall y ffaith fod Owen Smith wedi ychwanegu ei enw i’r ras godi problemau i aelodau’r blaid sydd am gael gwared â Jeremy Corbyn, gan y bydd y bleidlais yn ei erbyn yn hollti rhwng dau ymgeisydd.

Roedd Nia Griffith yn cydnabod hyn, ac yn dweud ei bod yn disgwyl y bydd “trafodaethau’n mynd ymlaen” rhwng Angela Eagle ac Owen Smith.

Fe allai hynny olygu bod y naill neu’r llall yn sefyll i’r naill ochr, er fod Angela Eagle wedi dweud mewn cyfweliad neithiwr ei bod yn bryd cael menyw i arwain y Blaid Lafur.

‘Hyderus’

Doedd Llafur ddim yn llwyddi i fod yn wrthblaid effeithiol dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn, yn ôl Nia Griffith, sydd yn credu bod ganddo syniadau da ond nad yw’n gallu cyfathrebu’n dda gyda’r cyhoedd.

“Does dim neges glir sy’n dod o’r Blaid Lafur, mae hyd yn oed pobol a bleidleisiodd dros Jeremy Corbyn y llynedd yn ail-feddwl nawr.

“Mae eisiau rhywun arall, cadw at syniadau (Jeremy Corbyn) fel anti-austerity ond i wneud y blaid yn fwy parod i wynebu etholiad.

“Dw i’n hyderus fod Angela Eagle yn gallu ennill, nid yn unig yn yr arweinyddiaeth ond mewn Etholiad hefyd.”