Gwynoro Jones yn mynegi ei farn ar You Tube
Mae Democrat Rhyddfrydol a chyn AS Llafur blaenllaw wedi dweud bod hi’n hanfodol fod mudiad trawsbleidiol yn ymgyrchu dros ‘Gymru rydd’.
Cyn annerch rali annibyniaeth, mae Gwynoro Jones – a gurodd Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin – yn dweud bod rhaid cael cefnogaeth o sawl cyfeiriad i annibyniaeth, neu fydd yr ymgyrch ddim yn llwyddo.
“Os bydd hwn yn rhywbeth i Blaid Cymru’n unig, mae’n mynd i fethu, achos fe fydd yn ddadl rhwng y pleidiau eto. Mudiad cenedlaethol, trawsbleidiol sydd eisiau ond dyw hi ddim yn mynd i fod yn hawdd,” meddai wrth golwg360.
“Peryg mawr” o beidio mynd yn annibynnol
Mae Gwynoro Jones yn dweud ei fod wedi credu mewn ‘Prydain Ffederal’ erioed – sef sofraniaeth lawn i bob gwlad ym Mhrydain heblaw am faterion amddiffyn a rhyngwladol.
Ond ac yntau’n gefnogwr brwd o’r Undeb Ewropeaidd, mae’n argyhoeddedig, ers Brexit, mai annibyniaeth lawn i Gymru yw’r ateb.
Dywedodd ei fod yn credu y bydd annibyniaeth i’r Alban yn digwydd o fewn dwy neu dair blynedd a gyda cwestiynau’n cael eu codi ynghylch perthynas Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth, dydy ddim am weld Cymru’n aros yn rhan o “senario Cymru a Lloegr”.
“Os ‘na ddihunwn ni fel gwlad mae hwnna’n beryg mawr. Byddwn ni fel petaen ni wedi mynd y ganrifoedd fel ‘Cymru a Lloegr’, dydw i ddim yn hapus â hynny o gwbl,” meddai.
‘Difaru’ gadael gwleidyddiaeth
Mae’n bosib hefyd y bydd y cyn-wleidydd yn ail-afael yn ei rôl yn y maes.
Mae’n dweud iddo “ddifaru” camu o’r neilltu o fyd gwleidyddiaeth Cymru am gyhyd a hynny am fod y sefyllfa yng Nghymru wedi mynd mor wael, a’i fod yn credu y gallai fod wedi gwneud gwahaniaeth.
“Does dim ofn gen i ddweud fy marn, na siarad yn glir, dw i’n Gymro i’r carn a fyddwn ni ddim wedi chwarae rhai o’r gêmau sydd wedi cael eu chwarae.”
Rali Cymru Rydd
Fe fydd yn siarad mewn rali ‘Cymru Rydd yn Ewrop’ yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos, wrth i’r dre’ gofio 50 mlynedd ers etholiad hanesyddol 1966, lle cipiodd Gwynfor Evans sedd gyntaf Plaid Cymru – Gwynoro Jones a enillodd y sedd oddi arno yn 1970.
Cafodd wahoddiad yn gynta’ i ddigwyddiad dadorchuddio cofeb Gwynfor gan ei deulu, am ei fod wedi sefyll yn ei erbyn mewn tri etholiad, gan ennill ddwywaith – unwaith, yn 1974, o ddim ond tair pleidlais.
Ymhlith y siaradwyr eraill fe fydd Adam Price, Aelod Cynulliad Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Bydd y rali yn cael ei chynnal am 5pm ar Sgwâr Neuadd y Dref, yng nghanol Caerfyrddin. Dyma’r drydedd rali i alw am annibyniaeth i Gymru yn Ewrop, gyda dwy wedi bod yng Nghaernarfon a Chaerdydd ar 2 Gorffennaf.