Atomfa bresennol Hinkley Point (Richard Baker CCA2.0)
Fe fydd y pris i Lywodraeth Prydain am drydan o atomfa newydd yn Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf yn cynyddu bron bum gwaith i tua £30 biliwn, yn ôl y Swyddfa Archwilio Brydeinig.
Roedd y Llywodraeth wedi rhoi sicrwydd o £92.50 am bob megawatt o drydan i gwmni Ffrengig EDF ond mae’r bwlch rhwng hynny a phris y farchnad wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwetha’ – o ganlyniad, fe fydd y bil i’r pwrs cyhoeddus yn fwy.
Yn ôl y Swyddfa, fe fyddai’r bil i’r Llywodraeth yn codi o £6.1 biliwn i £29.7 biliwn dros oes y cynllun.
Fe ddaw’r adroddiad wythnos ar ôl i asesiad gan gorff swyddogol y llywodraeth awgrymu y byddai cost adeiladu’r orsaf niwclear hefyd yn codi o £18 biliwn i £37 biliwn.
£10 ar bob bil, meddai’r Llywodraeth
Mae’r Adran Ynni yn Llundain wedi gwadu’r honiadau gan ddweud mai’r pris fydd £10 y flwyddyn ar bob bil trydan a bod ynni niwclear yn rhan hanfodol o strategaeth y Llywodraeth.
Er hynny, roedd y Swyddfa Archwilio’n dweud nad oedd sicrwydd y byddai’r atomfa’n cael ei chodi o gwbl.
“Gallai cefnogi cynlluniau niwclear newydd buan arwain at gostau uwch yn y tymor byr na pharhau i gefnogi ynni gwynt a haul,” meddai.
“Mae pris cystadleuol ynni niwclear yn gwanhau wrth i ynni gwynt a haul ddod yn fwy amlwg.”