Llun creu o'r trac rasio
Fydd Llywodraeth Cymru ddim yn cefnogi cwrs rasio ceir ym Mlaenau Gwent – ar hyn o bryd.
Unwaith eto, maen nhw wedi gwrthod gwarantu gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn y cwrs ger Glyn Ebwy.
Mae’r risg yn dal i fod yn ormod, meddai’r Ysgrifennydd Economi, Ken Skates, gan ddweud bod rhaid i’r sector preifat warantu o leia’ hanner y gost.
Ond fe ddywedodd fod ei ddrws yn agored o hyd a’i fod yn dal i fod yn barod i drafod.
Manylion y cynnig
Ar y dechrau, roedd y cwmnïau y tu cefn i gwrs Cylchdaith Cymru wedi gofyn am warant o’r holl fuddsoddiad preifat yn y fenter – mwy na £370 miliwn.
Erbyn y bore yma, roedd y datblygwyr yn gofyn am wariant o 75% o’r gwariant gan y Llywodraeth ac 8% gan gyngorau lleol.
Mewn sesiwn llawn yn y Cynulliad, fe ddywedodd Ken Skates y byddai’n fodlon cefnogi’r fenter petai lefel y gwarant yn dod o dan 50%.
Mae angen hynny, meddai, er mwyn sicrhau “gwerth am arian i Lywodraeth Cymru a’r pwrs cyhoeddus”.
Gwrthbleidiau’n siomedig
Mae’r gwrthbleidiau wedi mynegi siom am y penderfyniad ac wedi holi’n galed am ei benderfyniad i osod y trothwy o 50%.
Yn ôl llefarydd Plaid Cymru, Steffan Lewis, roedd hynny’n golygu bod y Llywodraeth eisoes wedi rhoi grantiau o filiynau o bunnoedd i ddatblygu’r cynlluniau, heb unrhyw sicrwydd.
Gan fod y Llywodraeth wedi bod yn trafod gyda’r datblygwyr ers 2011, roedd yn feirniadol o’r penderfyniad hwyr i osod trothwy pendant.
Ac yn ôl arweinydd UKIP, Neil Hamilton, roedd y gwarant oedd yn cael ei ofyn gan y Llywodraeth mewn gwirionedd yn fychan iawn.
Ac fe ddywedodd AC Plaid Cymru, Adam Price, fod y peryg y bydd y cynllun yn methu yn isel iawn ac felly y dylai’r Gweinidog fwrw ymlaen a’i gefnogi.