Sian Gwenllian y tu allan i Ysbyty Gwynedd (Llun o'i chyfri Twitter)
Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru wedi agor y drws ar y posibilrwydd o greu Ysgol Feddygol newydd i ddoctoriaid yng ngogledd Cymru.

Dan bwysau gan AC Arfon, Sian Gwenllian, fe ddywedodd Vaughan Gething y byddai’n edrych o ddifri ar y syniad, gan edrych ar y dadleuon tros y syniad a’r hyn sydd yn bosib.

Roedd eisoes wedi gofyn i swyddogion wneud gwaith ymchwil, meddai, ac os oedd  yna dystiolaeth bod angen ysgol o’r fath a’i bod yn bosib, fe fyddai ganddo “ddiddordeb” yn hynny.

Gofyn am addewid

Roedd Sian Gwenllian wedi gofyn iddo roi addewid heddiw y byddai’n cefnogi Ysgol Feddygol newydd ym Mangor, gan ddadlau bod hynny’n angenrheidiol i sicrhau bod mwy o feddygon teulu yn aros i weithio yn y Gogledd.

Roedd yna dystiolaeth, meddai, fod doctoriaid teulu yn aros i weithio yn yr ardaloedd lle’r oedden nhw wedi cael eu hyfforddi.

“Mae bron hanner y doctoriaid ym Mhen Llŷn dros 55 oed ac yn debygol o ymddeol yn ystod y blynyddoedd diwetha’,” meddai.

Newid hyfforddiant

Fe ddywedodd Vaughan Gething ei fod yn awyddus i addasu trefniadau hyfforddi i sicrhau bod mwy o feddygon yn dod i weithio i bob rhan o Gymru.

Fe fyddai hefyd yn ceisio gwneud yn siŵr fod myfyrwyr meddygol yn cael profiad o feddygaeth teulu ynghynt yn eu cyrsiau gan obeithio y byddai hynny’n denu rhagor i weithio yn y maes.