Yn ôl Cadeirydd Awdurdod S4C, yr ystyriaeth fwyaf sy’n codi o Adroddiad Blynyddol y sianel yw’r “cynnydd trawiadol” yn nifer y gwylwyr ar-lein.

Er bod y sianel wedi colli 12,000 o wylwyr teledu yng Nghymru ers y llynedd, mae 14,000 o bobol yng Nghymru bellach yn gwylio rhaglenni S4C ar-lein yn unig.

Mae hyn yn codi cwestiynau mawr i’r sianel o ran sut mae datblygu ei chynnwys ar-lein, ond fe ddaeth cadarnhad gan Huw Jones na fydd S4C yn anghofio am y teledu traddodiadol.

“Mae’n amlwg bod teledu lliniol, traddodiadol yn mynd i fod efo ni am flynyddoedd i ddod, beth sy’n ddiddorol yw’r berthynas rhwng teledu traddodiadol a gwylio ar-lein,” meddai wrth golwg360.

“Fel unigolion, mae’r rhan fwyaf ohonom ni yn defnyddio’r ddau, weithiau rydach chi’n edrych ar ran o gyfres ar deledu traddodiadol ac yn dal i fyny efo penodau eraill ar-lein.

“Mae’n cynyddu gallu pobol i gadw cysylltiad (â S4C) ar adegau gwahanol, mae o’n tanlinellu pa mor bwysig ydy marchnata effeithiol yn mynd i fod yn y dyfodol.

Mae hynny’n golygu sicrhau bod y sianel yn cyrraedd pobol, ychwanegodd, gan bwysleisio bod defnyddio cyfryngau newydd yn ogystal â chyfryngau traddodiadol yn mynd law yn llaw.

Sianel Pump

Ond mae angen meddwl am ba fath o gynnwys sydd yn mynd i fod yn “ddeniadol” i bobol ar-lein, ac mae hynny wedi arwain y sianel i gyfeiriadau newydd, drwy greu sianel YouTube newydd – Sianel Pump.

“Mae arbrofion fel Pump yn dangos, hwyrach, i ba fath o gyfeiriad fydd pethau’n mynd yn y dyfodol, sef cynnwys byrrach, cynnwys sydd yn cael ei greu i’r cyfryngau digidol yn unig, cynnwys sydd yn cael ei hyrwyddo mewn ffordd wahanol,” meddai Huw Jones.

Dyw’r Awdurdod heb drafod dyfodol Pump eto ac mae Huw Jones yn cyfeirio ati fel “arbrawf” ond un sy’n “bwysig a gwerthfawr”, gyda’r ymateb iddi “i’w groesawu.”

Gan mai ym mis Ebrill y cafodd y sianel ei sefydlu, does ‘na ddim canlyniadau yn ei chylch yn yr adroddiad, ond mae un agwedd arni, sef cyfres Bocs Bry, wedi cyrraedd dros 75,000 o hits hyd yn hyn.

“Rydym ni’n disgwyl gweld y canlyniadau maes o law, dw i’n siŵr y bydd yna adroddiad gan swyddogion yn dod i’r Awdurdod yn awgrymu beth yw’r ffordd ymlaen,” meddai Huw Jones.

Dim gorfodi is-deitlau: “ar hyn o bryd”

Mae’r Adroddiad Blynyddol hefyd yn nodi’r “her” o gyrraedd cartrefi cymysg eu hiaith, ac mae bwriad gan S4C i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg y garfan hynny o bobol.

Does ‘na ddim cynllun “ar hyn o bryd”, yn ôl Huw Jones i ail-gyflwyno is-deitlau gorfodol ar rai rhaglenni, fel y digwyddodd yn gynharach eleni, gan ennyn ymateb chwyrn.

“Mae sut mae’r ymwybyddiaeth yna yn cael ei godi yn fater i’w drafod maes o law. Beth sy’n bwysig ydy bod pobol yn dod i wybod bod o yna,” meddai.

“Dydy hwnnw ddim yn fwriad gennym ni ar hyn o bryd [is-deitlau gorfodol], ymgyrch marchnata oedd yr arbrawf, nid polisi newydd. Mae’r polisi yn aros yr un fath.”

Edrych at y dyfodol

Wrth i dueddiadau pobol fynd tuag at wylio ar-lein, mae S4C yn gobeithio y bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yn Adolygiad Annibynnol Llywodraeth Prydain ar y sianel, fydd yn cael ei gynnal yn 2017.

Gobaith S4C yw y bydd yr adolygiad yn ystyried “beth yw anghenion gwasanaeth teledu Cymraeg ymhen pum a 10 mlynedd”, gan edrych ar y goblygiadau cyllido, yn ôl Huw Jones.

“Y cwestiynau sydd yn mynd gyda hynny yw beth yw’r goblygiadau o ran cyllido a sut mae sicrhau cyllid i sicrhau bod y gwasanaeth Cymraeg yn un cystadleuol, o safon uchel, ac yn gyfoes yn ôl anghenion y cyfnod sydd i ddod.”