Max Clifford Llun: PA
Mae Max Clifford wedi ei gael yn ddieuog o ymosod ar ferch yn ei harddegau yn Llys y Goron Southwark.

Roedd y dyn PR wedi gwadu gorfodi merch 17 oed i gyflawni gweithred rywiol yn y 1980au.

Clywodd y llys yn ystod yr achos fod Clifford, 73 oed, wedi defnyddio’i statws wrth ymosod ar y ferch yn ei swyddfa ym Mayfair rhwng 1981 a 1982.

Dywedodd yr erlynydd fod Clifford yn “fwli rhywiol” ar ôl i’r ferch ei gwneud hi’n amlwg nad oedd ganddi ddiddordeb ynddo fe.

Cafodd Clifford ei garcharu am wyth mlynedd yn 2014 ar ôl i lys ei ganfod yn euog o wyth cyhuddiad fel rhan o ymchwiliad Yewtree.

Yn y llys, dywedodd Clifford nad oedd yr ymosodiad honedig diweddaraf wedi digwydd, ac y byddai wedi cofio pe bai wedi digwydd.