Max Clifford Llun: PA
Mae’r rheithgor yn achos Max Clifford wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn Llys y Goron Southwark.

Mae’r dyn PR wedi’i gyhuddo o orfodi merch 17 oed i gyflawni gweithred rywiol yn y 1980au.

Clywodd y llys yn ystod yr achos fod Clifford wedi defnyddio’i statws wrth ymosod ar y ferch yn ei swyddfa ym Mayfair rhwng 1981 a 1982.

Ond mae’n gwadu’r cyhuddiad.

Dywedodd yr erlynydd fod Clifford yn “fwli rhywiol” ar ôl i’r ferch ei gwneud hi’n amlwg nad oedd ganddi ddiddordeb ynddo fe.

Honnir hefyd bod Clifford wedi gadael ffotograffau o ferched ar ei ddesg fel bod y ferch yn gallu eu gweld nhw.

Cafodd Clifford ei garcharu am wyth mlynedd yn 2014 ar ôl i lys ei ganfod yn euog o wyth cyhuddiad fel rhan o ymchwiliad Yewtree.

Yn y llys, dywedodd Clifford nad oedd yr ymosodiad honedig diweddaraf wedi digwydd, ac y byddai wedi cofio pe bai wedi digwydd.

“Dw i ddim yn fwli, dydy hynny ddim yn fy natur i,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn “darged”.

Ymhlith ei gleientiaid dros y blynyddoedd roedd Frank Sinatra, y Beatles, Diana Ross a llu o sêr o’r byd chwaraeon, yn ogystal â Chlwb Pêl-droed Chelsea.