Ann Clwyd AS Cwm Cynon
Mae Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, Ann Clwyd wedi amddiffyn penderfyniad y Llywodraeth Lafur ar y pryd i fynd i ryfel yn Irac.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Chilcot y bore ma oedd yn feirniadol o’r paratoadau a’r prosesau a arweiniodd at benderfyniad y Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair.

Yn ôl Ann Clwyd, roedd arweinydd Irac ar y pryd, Saddam Hussein yn lladd ei bobol ei hun ac roedd angen cael gwared arno fe.

Dywedodd hefyd fod Hussein yn gweithredu’n erbyn y Cenhedloedd Unedig.

Yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Ann Clwyd: “Roedd Saddam Hussein, yn 1988, eisoes wedi lladd hanner miliwn o’i bobol ei hun.

“Fe aeth ymlaen i ladd mwy a mwy – y Shia yn y de, y Cwrdiaid yn y gogledd, Arabiaid Marsh yn y de.”

Dywedodd ei bod hi wedi dod i wybod am ei weithgarwch wrth fynd i Irac i ymgyrchu tros hawliau dynol dros gyfnod o 30 o flynyddoedd.

“Trueni na fuasai pobol yn gofyn i Iraciaid beth maen nhw’n ei feddwl o’r ymosodiad, oherwydd mae nifer o Iraciaid yn ddiolchgar ein bod ni wedi gweithredu pan wnaethon ni ar yr adeg honno.”

Er bod peth cynllunio, meddai, doedd hynny ddim yn ddigonol.