Jeremy Hunt Llun: PA
Fe fydd y Llywodraeth yn gorfodi cytundeb newydd ar feddygon iau yn Lloegr, meddai’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt heddiw.

Dywedodd Jeremy Hunt ei fod wedi bod yn “benderfyniad anodd” ond bod yn rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd gael sicrwydd, yn enwedig yn sgil penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw’r penderfyniad ar ôl i feddygon iau a myfyrwyr meddygol wrthod cytundeb a wnaed rhwng y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) a’r Llywodraeth gyda 58% yn pleidleisio yn erbyn y cytundeb, a 42% o blaid.

Roedd tua 37,000 o feddygon iau a myfyrwyr meddygol wedi bwrw pleidlais – sef 68% o’r rhai sy’n gymwys i bleidleisio.