Syr John Chilcot Llun: PA
Mae is-gadeirydd CND Cymru wedi dweud wrth golwg360 bod gan bob aelod o Gabinet Tony Blair “waed ar eu dwylo” yn dilyn arwain y wlad i ryfel yn Irac.
Yn ôl Brian Jones, maen nhw i gyd yn “euog” o beidio â “gofyn cwestiynau anodd” i’r Prif Weinidog ar y pryd.
Yn adroddiad Chilcot a gafodd ei gyhoeddi heddiw, dywedodd Syr John Chilcot fod y penderfyniad i fynd i ryfel wedi cael ei wneud cyn bod y llywodraeth ar y pryd wedi ymchwilio i’r holl opsiynau oedd ar gael iddyn nhw.
“Mae pethau ddim yn dda ar Blair, ond mae’n rhaid dweud, roedd y Cabinet i gyd yn euog yn yr un ffordd, heblaw am Robin Cook (a ymddiswyddodd o’r Cabinet),” meddai Brian Jones.
“Dyw e ddim yn edrych fel oedd neb yn gofyn cwestiynau, jyst wedi derbyn fod (rhyfel) yn mynd i ddigwydd beth bynnag.
“Bydden i’n dweud bod gwaed ar eu dwylo nhw. Dwi’n cofio mynd i weld Peter Hain, fy Aelod Seneddol lleol (oedd yn Ysgrifennydd Cymru ar y pryd), roedd e hollol o blaid mynd i ryfel.
“Yn fy marn i, maen nhw i gyd yn euog. Tony Blair oedd y Prif Weinidog a dylai’r Cabinet fod wedi gofyn y cwestiynau anodd.”
Roedd golwg360 wedi ceisio siarad â’r Arglwydd Peter Hain, cyn AS dros Gastell-nedd, am Adroddiad Chilcot, ond doedd e ddim am wneud sylw.
Galw am achos cyfreithiol
“Mae’n gyfnod trist iawn yn ein hanes ni,” ychwanegodd Brian Jones, cyn dweud y dylai Tony Blair wynebu’r goblygiadau am yr hyn a wnaeth.
“Yn bersonol, hoffwn i weld achos cyfreithiol yn erbyn Tony Blair ond yn anffodus, dw i’n meddwl caiff getawê â fe.
“Mae’n ddyn cyfoethog, gallai symud i America os byddai e am wneud a bydd dim byd yn digwydd.”