Y dyn all stopio Cymru? Ie, medd Michael Gerardo o Abertawe
Fe fydd perthynas Cymraes a dyn o Bortiwgal yn cael ei phrofi i’r eithaf nos Fercher pan fydd eu gwledydd yn mynd ben-ben am le yn rownd derfynol Ewro 2016.

Gwnaeth Natalie Humphries o Abertawe gyfarfod â Michael Gerardo o Benfica bedair blynedd yn ôl.

Ond yn hytrach na gwylio’r gêm fawr gyda’i gilydd, bydd y pâr ymhell oddi wrth ei gilydd ar gyfer y 90 munud tyngedfennol.

Tra bydd y Gymraes adref gyda’i theulu, bydd ei chariad yn mynd i berfedd y ddinas i wylio’r gêm ar sgrîn fawr.

Ond mae Michael, sy’n cefnogi Benfica, yn cyfaddef ei gyfyng-gyngor gan iddo dreulio pum mlynedd yn Abertawe, ac yntau’n gyn-fyfyriwr adran Peirianneg Cemegol y brifysgol.

“Mae’r ddau dîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn fy rhoi i mewn cyfyng-gyngor oherwydd ’mod i wedi byw yng Nghymru ers pum mlynedd a dyma yw fy nghartref.

“Ond er cymaint dw i’n caru Cymru, dw i eisiau i Bortiwgal ennill.”

Mae’n siŵr mai yn yr iaith Bortiwgaeg y bydd Michael yn cefnogi ei dîm nos Fercher, ond yn Saesneg y ceisiodd ddenu sylw Natalie yn 2012 pan oedden nhw mewn bar yn y ddinas.

Dywedodd Michael: “Dw i ddim yn cofio beth ddywedais i ond fe gymerodd gryn dipyn o gyts i siarad â merch mewn bar yn fy ail iaith!”

Er y gallai’r canlyniad heno brofi eu perthynas i’r eithaf, fe fu’r ddau yn gwylio gemau gyda’i gilydd dros y blynyddoedd, nid lleiaf pan oedd Portiwgal yn herio Lloegr mewn gêm gyfeillgar fis diwethaf.

Ac maen nhw hefyd wedi bod i weld brawd Natalie, Lloyd yn chwarae i dîm dan 21 Caerdydd.

Mae’r ddau yn cyfaddef fod gan Michael obsesiwn â Cristiano Ronaldo.

Dywedodd Natalie: “Os yw e yn y dafarn a dw i’n methu clywed gair mae’n ei ddweud, galla i ddweud yn union pryd mae e’n siarad am Ronaldo.

“Dw i wedi bod yn tynnu ei goes e cyn y gêm yn dweud mai un o fy hoff bethau am Ronaldo yw pa mor wael yw e wrth gymryd ciciau rhydd – yn enwedig o gofio pa mor dda yw Gareth Bale!”

Ychwanegodd Michael: “Fi yw’r cyntaf i amddiffyn Ronaldo, ond dw i’n cyfadde nad yw e wedi bod ar ei orau yn y twrnament yma. Ond dw i’n credu y daw e’n fyw yn erbyn Cymru.

Tra bod Natalie yn darogan buddugoliaeth i Gymru o 3-2, Portiwgal fydd yn mynd â hi o 2-1 ar ôl amser ychwanegol, chwedl Michael.

Pob lwc, Natalie. Boa Sorte, Michael.