Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, Llun: PA
Fe fydd dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Tom Watson, yn cynnal trafodaethau brys gydag arweinwyr undebau llafur mewn ymgais olaf i geisio dod a’r gwrthdaro ynglŷn ag arweinyddiaeth Jeremy Corbyn i ben.

Mewn cyfarfod rhwng y ddau yn San Steffan ddydd Llun, dywedodd Tom Watson wrth Jeremy Corbyn na allai barhau fel arweinydd y blaid heb gefnogaeth Aelodau Seneddol Llafur.

Wythnos diwethaf roedd mwyafrif o ASau’r blaid wedi cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn Jeremy Corbyn fel arweinydd.

Ond dywedodd Tom Watson wrth gyfarfod llawn o’r blaid neithiwr bod Corbyn wedi mynnu unwaith eto nad oes bwriad ganddo i ildio’r awenau, gan apelio o’r newydd ar ei gefnogwyr i uno a chefnogi ei arweinyddiaeth.