Mae pump yn y ras i olynu David Cameron Llun: O dudalen Facebook David Cameron
Bydd Aelodau Seneddol Ceidwadol yn pleidleisio am y tro cyntaf heddiw yn y broses i ethol arweinydd newydd i olynu David Cameron.

Y ffefryn yn y ras o hyd yw’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, ond mae cefnogaeth newydd Boris Johnson i ymgyrch y Gweinidog Ynni, Andrea Leadsom, yn cael ei gweld fel pluen fawr yn ei het.

Dywedodd cyn-Faer Llundain, a dynnodd ei enw o’r ras ar ôl i’w gyn-gefnogwr, Michael Gove, fynd yn ei erbyn, fod ganddi’r “gallu a’r penderfyniad” i arwain y wlad.

Mae hyn yn cael ei weld fel hwb i ymgyrch Leadsom, a oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, ar ôl iddi berfformio’n wael mewn hystingau o flaen ASau Ceidwadol yn San Steffan nos Lun.

Mae ei gefnogaeth i Andrea Leadsom yn cael ei weld fel ffordd o ddial ar Michael Gove, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, yr oedd disgwyl iddo gefnogi Boris Johnson, cyn dweud nad oedd e’n credu bod ganddo’r “arweiniad” sydd ei angen  i fod yn brif weinidog.

Mae’r Cymro Stephen Crabb, AS Preseli Penfro a’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, hefyd yn gobeithio mai fe fydd yr arweinydd nesa’, yn ogystal â’r cyn ysgrifennydd amddiffyn, Liam Fox.

Leadsom a May ar y blaen

Cyn i’r bleidlais gyntaf ddigwydd, roedd pôl piniwn gan wefan y ConservativeHome o 1,214 o aelodau’r blaid yn rhoi Andrea Leadsom ar y blaen o drwch blewyn gyda 38%.

Yn agos wrth ei thraed oedd Theresa May, gyda 37%.

Fodd bynnag, mewn arolwg YouGov i The Times, oedd yn cynnwys 994 o aelodau’r blaid, Theresa May oedd ar y blaen gyda 63% ac Andrea Leadsom yn ail  gyda 31%.

Yn yr hystingau ddydd Llun, er gwaethaf beirniadaeth chwyrn gan ASau ei phlaid, fe fynnodd Theresa May bod angen i statws dinasyddion o’r UE sy’n byw ym Mhrydain fod yn rhan o drafodaethau Brexit.

Mynnodd hefyd fod angen pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ar adnewyddu Trident cyn i’r Senedd ddod i ben dros yr haf.

Ar ôl i’r ASau fwrw eu pleidlais, fe fydd y ddau sydd ymgeisydd yn y ras yn mynd benben â’i gilydd mewn pleidlais ar gyfer aelodau cyffredinol y blaid Geidwadol ledled y wlad.

Mae disgwyl i Brif Weinidog newydd gael ei ethol erbyn 9 Medi.