Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi damwain angheuol ar yr A4067 ger Pontardawe neithiwr.

Bu farw dynes oedd yn gyrru car Ford Ka a fu mewn gwrthdrawiad a char Honda Civic ar y ffordd rhwng Glais a Phontardawe am 10.13yh nos Lun, 4 Gorffennaf.

Cafodd dau berson eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad  ac mae’r heddlu’n apelio am lygad dystion a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu’r ceir yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1600250261.