Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi amlygu fod “gwaith i’w wneud” wrth argyhoeddi’r cyhoedd a’r Llywodraeth am bwysigrwydd amaethyddiaeth i Gymru.
Daw ei sylwadau wedi i gynrychiolwyr o’r sector amaethyddol gwrdd â Phrif Weinidog Cymru a’r Ysgrifennydd Materion Gwledig ym Mae Caerdydd ddoe i drafod y “ffordd ymlaen” i gefn gwlad wedi Brexit.
Yn ôl Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, rhai o’r prif faterion a amlygwyd ddydd Llun oedd dyfodol ffynonellau cyllido, rheolau amgylcheddol a mynediad i’r farchnad sengl.
Dywedodd Lesley Griffiths fod y Prif Weinidog yn parhau mewn trafodaethau â Llywodraeth San Steffan ynglŷn â thelerau ac amseriad Brexit ond – “rhoddodd sicrwydd i’r rhai oedd yn bresennol y byddai’r materion a godwyd yn flaenllaw yn ei feddwl yn ystod y trafodaethau hyn.”
‘Amaethyddiaeth yn mynd ar goll’
Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts, wrth Golwg360 ei fod wedi bod yn gyfarfod buddiol i amlygu’r pryderon ymysg diwydiant a chymdeithas cefn gwlad Cymru.
“Yr ofn mawr oedd gen i oedd y byddai amaethyddiaeth yn mynd ar goll yn y cyd-destun ehangach ac yn gorfod brwydro am gyllid oddi wrth y gwasanaeth iechyd er enghraifft,” meddai.
Pryder arall a leisiodd oedd amseriad Brexit, “mae angen cymaint o amser a fedrwn ni i wneud cynllun fydd yn diwallu anghenion amaethyddol a phopeth sy’n ymwneud â chefn gwlad a’i diwylliant yng Nghymru.”
Er ei fod yn ffyddiog fod y pwyllgor yn barod i wrando dywedodd, “mae gennym waith i’w wneud i argyhoeddi aelodau Cynulliad ehangach o ran pwysigrwydd amaeth.”
‘Her fawr’
Ychwanegodd Glyn Roberts y byddai Brexit yn golygu datganoli amaethyddiaeth i Gymru “sy’n mynd i fod yn her fawr ond hefyd yn gyfle inni arwain ar yr hyn rydan ni am ei weld.”
Ddoe oedd y cyfarfod cyntaf o “gyfres o gyfarfodydd” gyda chynrychiolwyr o’r sector, a bydd y cyfarfod nesaf yn y Sioe Frenhinol ymhen pythefnos.