Llun: PA
Mae wedi dod i’r amlwg mai bwlio yw’r trydydd rheswm mwyaf cyffredin bellach i blant yng Nghymru gysylltu â llinell gymorth yr NSPCC.

Y llynedd, fe wnaeth mwy na 2,000 o blant gysylltu â chanolfannau ChildLine yng Nghymru ynglŷn â bwlio a bwlio ar y we.

“Mae wedi bod yn un o’r pryderon mwyaf cyffredin sy’n cael eu mynegi gan blant ers i ChildLine gael ei sefydlu 30 mlynedd yn ôl,” meddai llefarydd ar ran NSPCC Cymru.

‘Bwlio wedi newid’

 

A heddiw’n ddiwrnod ‘Sefyll yn erbyn Bwlio’ mae’r elusen yn amlygu sut y dylai pobl fynd i’r afael â bwlio.

Yn ôl y llefarydd, mae bwlio wedi newid dros y blynyddoedd – “ar un adeg roedd e wedi’i gyfyngu i’r maes chwarae, ond nawr mae’n dilyn y plant i’w cartrefi drwy gyfryngau cymdeithasol a chynnydd mewn defnydd o ffonau symudol.”

Mae cynghorwyr ChildLine yn annog unrhyw un sy’n cael eu bwlio i ddweud wrth rywun, rhiant, ffrind, athro neu athrawes. Dylent hefyd geisio ‘blocio’r bwli’ ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn adennill hunan hyder personol.

“Gall bwlio ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oedran,” meddai’r llefarydd.

“Does gan neb yr hawl i’ch niweidio neu wneud ichi deimlo’n wael, does dim rhaid ichi ddioddef hynny – ewch i siarad â rhywun.”

O’r 22,936  o alwadau a dderbyniodd canolfannau ChildLine Cymru’r llynedd, roedd 10% (2,112) yn ymwneud â bwlio.