Darren Williams (Llun: gwefan Cyngor Caerdydd)
Mae wedi dod i’r amlwg fod un o aelodau diweddaraf Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol y Blaid Lafur (NEC) yn wynebu achos o ddisgyblaeth ddiwrnodau’n unig ar ôl gael ei ethol i’w rôl.

Yr wythnos diwethaf, derbyniodd Cynghorydd Llafur Cyngor Dinas Caerdydd, Darren Williams, e-bost gan swyddogion y blaid yn gofyn iddo fynychu cyfarfod brys.

Roedd yr e-bost yn nodi ei fod yn wynebu honiad o “dynnu llun o ddeunydd print Llafur Cymru a’i anfon i’r wasg.”

Ond mae Darren Williams wedi dweud wrth Golwg360 nad “cyd-ddigwyddiad” yw bod yr achos hwn yn codi yn yr un cyfnod â’r ffrae dros arweinyddiaeth y Blaid Lafur – ag yntau’n gefnogwr amlwg i Jeremy Corbyn.

‘Cefnogi Corbyn’

Mae disgwyl i bwyllgor NEC y Blaid Lafur benderfynu a ddylai enw Jeremy Corbyn gael ei ailgyflwyno’n awtomatig i fod yn arweinydd y tro nesaf – neu a oes angen iddo gasglu llofnodion Aelodau Seneddol yn gyntaf.

“Mae’n codi cwestiynau am fy mod i’n adnabyddus am fy nghefnogaeth i Corbyn,” meddai Darren Williams.

“Rwy’n cefnogi’r seiliau y cafodd Corbyn ei ethol i greu cymdeithas decach, fwy democrataidd a chynaliadwy, ac yn ystod 27 mlynedd o aelodaeth weithredol dw i erioed wedi wynebu achos o ddisgyblaeth o’r blaen,” ychwanegodd.

Dywedodd ei fod yn credu fod Jeremy Corbyn yn gwneud y peth iawn i ddal ei dir er gwaetha’r bleidlais o ddiffyg hyder.

“Dw i’n meddwl y gallai ennill etholiad arall i ddod yn arweinydd, ac mae’n drueni fod yr Aelodau Seneddol wedi pleidleisio yn erbyn teimlad llawer o’r aelodau cyffredinol.”

‘Camarwain’

Ni wnaeth Darren Williams fynychu’r cyfarfod oedd wedi’i drefnu at heddiw, a dywedodd ei fod yn aros am wybodaeth bellach am natur yr honiad oddi wrth y blaid.

“Dw i’n gwybod nad ydw i wedi gwneud dim o’i le, a dw i’n meddwl eu bod nhw wedi’u camarwain,” meddai Darren Williams.

Yn y cyfamser mae Jeremy Corbyn wedi bod yn amddiffyn ei record fel arweinydd Llafur ac wedi galw ar y blaid i “ddod at ei gilydd.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i’r Blaid Lafur yng Nghymru am ymateb.