Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth i farwolaeth gŵr 60 oed a fu farw ym Mangor dros y penwythnos.

Cafwyd hyd i gorff Peter Jones ychydig ar ôl 1yb fore dydd Sadwrn, 2 Gorffennaf  ger Stryd Fawr Bangor.

Bu ymdrechion i adfywio’r gŵr, ond bu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Dywedodd yr heddlu bod ei farwolaeth yn “anesboniadwy” ond nid yw bellach yn cael ei thrin fel un amheus yn dilyn archwiliad post mortem.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod U096819.