Philip Hammond
Mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi dweud nad oes modd sicrhau y bydd dinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn medru parhau i fyw ym Mhrydain – heb fod ymrwymiad tebyg yn eu lle ar gyfer Prydeinwyr sy’n byw dramor.
Dywedodd Philip Hammond fod angen i’r Deyrnas Unedig dderbyn canlyniad y refferendwm sy’n golygu y bydd rhaid rhoi terfyn ar symudiad rhydd dinasyddion yr UE o dan y drefn mewnfudo.
Dywedodd y bydd angen trafod â “gwledydd allweddol” Ewrop yn hytrach na’r UE gyfan drwy’r Comisiwn Ewropeaidd er mwyn sicrhau cytundeb i alluogi Prydeinwyr i fyw a gweithio dramor, ac i ddinasyddion yr UE wneud yr un peth yma.
Methu ‘cymryd yn ganiataol’
Mae Philip Hammond wedi datgan ei fod yn gefnogol i ymgyrch Theresa May i olynu David Cameron, a daw ei sylwadau yn dilyn pwysau i ateb a fyddai’r 3 miliwn o ddinasyddion UE sy’n byw ym Mhrydain yn cael eu hanfon yn ôl wedi Brexit.
“Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n medru cyrraedd pwynt lle medrwn ddweud wrth y dinasyddion UE sy’n byw yn y DU, a’r Prydeinwyr sy’n byw yng ngwledydd yr UE, y bydd popeth yn iawn ac y gallant aros.
“Ond, allwn ni ddim cymryd hynny’n ganiataol, mae’n rhaid inni drafod gyda’n cyn-bartneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd.”
Treth gorfforaethol
Yn y cyfamser mae John McDonnell,Canghellor yr wrthblaid wedi beirniadu cynlluniau George Osborne i ostwng treth gorfforaethol i lai na 15%.
Dywedodd y byddai hyn yn cyfrannu at yr economi ansefydlog ac y byddai Prydain yn datblygu’n noddfa dreth Ewropeaidd ac yn “tanseilio trafodaethau Brexit.”
Ond bwriad George Osborne ydy dangos bod y DU “dal ar agor” i fusnesau gan greu “economi gystadleuol.”