Nigel Farage Llun: Ukip
Mae arweinydd Ukip wedi dweud y bydd yn camu o’r neilltu yn dilyn y bleidlais fis diwethaf i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Nigel Farage ei fod am gael ei fywyd “yn ôl” a’i fod wedi cyflawni ei nod pan benderfynodd fentro i’r byd gwleidyddol.

Mae’r dyn dadleuol, 52, wedi cael dau dro yn arwain y blaid Ewro-sgeptaidd ers 2006, a chyhoeddodd y bydd yn rhoi’r gorau i’r swydd ar ôl methu ag ennill sedd yn Nhŷ’r Cyffredin yn 2015, cyn newid ei feddwl.

“Yn ystod ymgyrch y refferendwm, dywedais ‘mod i am gael fy ngwlad yn ôl. Heddiw, dw i’n dweud ‘mod i am gael fy mywyd yn ôl, ac mae’n dechrau nawr,” meddai mewn araith lle’r oedd disgwyl iddo amlinellu strategaeth Ukip ar ôl y refferendwm.

‘Dyddiau gorau Ukip eto i ddod’

Mewn datganiad, ychwanegodd: “Mae buddugoliaeth yr ochr Gadael yn y refferendwm yn golygu bod fy uchelgais gwleidyddol wedi’i gyflawni.

“Mae Ukip mewn safle da a bydd yn parhau, gyda fy nghefnogaeth lawn, i ddenu pleidleisiau sylweddol.

“Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r amodau yn aneglur. Os yw’r Llywodraeth yn syrthio’n ôl a gyda’r Blaid Lafur wedi’i datgysylltu o lawer o’i phleidleiswyr, yna mae’n bosib fod dyddiau gorau Ukip eto i ddod.”

Hamilton – ‘ffigwr dylanwadol’

Mae arweinydd Ukip yn y Cynulliad, Neil Hamilton, nad oedd yn un o gefnogwyr mwyaf Farage, wedi rhoi teyrnged iddo, gan alw am gael ei urddo’n arglwydd.

“Er nad ydw i o hyd wedi cytuno â Nigel, dw i’n parchu ei gyraeddiadau sylweddol,” meddai mewn datganiad ar ei wefan.

“Mae gan Ukip rôl fawr i chwarae yng ngwleidyddiaeth Prydain o hyd, ac, o dan arweinydd newydd, byddwn yn cyrraedd etholaeth hyd yn oed yn fwy.

“Mae Nigel Farage yn haeddu cael ei ddiolch gan bob Brexitiwr. Ni fyddai refferendwm hebddo fe. Mae’n ffigwr dylanwadol ond, os ydych yn ei hoffi neu’n ei gasáu, mae’n rym deinamig ac yn un o ffigurau blaenllaw gwleidyddiaeth Prydain heddiw.

“Mae’n amlwg bod ganddo gymaint i’w gynnig o hyd yn yr ymgyrch dros Brydain annibynnol. Dylai gael ei wneud yn arglwydd.”