Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams
Mae ymgyrch newydd ar droed i geisio sicrhau bod plant sydd ar fin dechrau’r ysgol wedi dysgu sgiliau fel gwisgo eu hunain a mynd i’r tŷ bach ar eu pennau eu hunain.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru, ‘Parod i Ddysgu’, hefyd yn annog rhieni i ddysgu eu plant i wrando drwy chwarae gemau, adnabod eu henwau eu hunain a datblygu sgiliau cymdeithasol cyn dechrau’r ysgol.

Y nod yw rhoi’r “dechrau gorau posib” i blant ar eu haddysg, cau’r bwlch rhwng y disgyblion mwyaf cefnog a’r rhai mwyaf difreintiedig a helpu athrawon.

Mae’r sgiliau eraill y mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i ddysgu hefyd yn cynnwys sut i ddal pensil ac annog darllen yn y cartref.

“Y cartref yw’r ffactor pwysicaf”

Mae’r cynllun, sydd yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru, ‘Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref’, wedi’i lansio gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

“Mae dechrau’r ysgol yn newid anferth ym mywyd plentyn bach, ac yn addasiad mawr ar gyfer y rhieni hefyd. Rydyn ni hefyd yn gwybod mai’r cartref yw’r ffactor pwysicaf o ran cyrhaeddiad addysgol,” meddai.

“Bydd helpu plant i ddatblygu’r sgiliau bywyd  hollbwysig hynny yn y cartref – bod yn chwilfrydig, yn hyderus ac yn barod i ddysgu – yn sicrhau bod dechrau’r ysgol yn brofiad positif a chyffrous o’u diwrnod cyntaf yno.

“Bydd y fenter hon yn helpu i greu amgylchedd sy’n gwerthfawrogi addysg ac yn cefnogi dysgu i roi’r dechrau gorau posibl i’n plant wrth iddyn nhw gychwyn ar eu taith academaidd.”

Cyngor i rieni a gofalwyr

Fel rhan o’r ymgyrch, mae adnoddau sy’n darparu cyngor, sydd wedi’u hanelu at rieni a gofalwyr plant pedair oed, fydd yn dechrau’r ysgol ar gael mewn gwahanol feithrinfeydd.

Mae’r rhain yn cynnwys taflen weithgareddau ‘parod i ddysgu’, siart weithgareddau a fideo byr i roi syniadau i rieni a gofalwyr i helpu eu plentyn i baratoi ar gyfer dechrau’r ysgol.